Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2020
Amser:
10.05 -
10.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6418
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Trafododd y Pwyllgor reolau diwygiedig y Senedd ar adnoddau ac fe’u nodwyd.
2.2. Nododd y Pwyllgor y gallai'r Senedd bellach drafod adroddiadau'r Pwyllgor Safonol, yn sgil cyflwyno pleidleisio o bell. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn nhymor yr hydref i ofyn am gael cynnal dadleuon.
3 Adolygiad o’r Cod Ymddygiad
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ymchwil ar y Cod Ymddygiad a thrafododd yr adolygiad.
3.2 Nododd y Pwyllgor feysydd ar gyfer ymgynghori ag Aelodau'r Senedd yn ystod toriad yr haf.